Teitl y Grŵp Trawsbleidiol: |
Cymru Ryngwladol |
Dyddiad y cyfarfod: |
27/02/24 |
Lleoliad: |
Senedd Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1SN
|
Enw: |
Teitl: |
Ruth Cocks |
Cyfarwyddwr Cymru – British Council Cymru |
Abigail Doyle |
Swyddog Cymorth Prosiect – British Council Cymru |
Yr Athro/Dr Claire Gorrara |
Deon Ymchwil ac Arloesi – Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd |
Lucy Jenkins |
Cyfarwyddwr Prosiect – Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern |
Kate Barber |
Myfyriwr ymchwil - Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd |
Tallulah Holley |
Ymgynghorydd Addysg ac Ymchwilydd |
|
|
Naomi Taylor
|
Swyddog Pwnc ar gyfer Almaeneg - CBAC |
Claire Bellamy
|
Swyddog Pwnc ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern - CBAC |
Victoria Ucele |
Rheolwr Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina - Sefydliad Confucius Caerdydd, Prifysgol Caerdydd |
|
|
Dr Catherine Chabert
|
Darllenydd mewn Ffrangeg, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Confucius – Prifysgol Caerdydd |
Najma Hashi |
Ysgogwr Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru |
Carlos Sanz Mingo
|
Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Sbaenaidd ac Astudiaethau Cyfieithu – Prifysgol Caerdydd |
|
|
Sioned Harold
|
Consortiwm EAS |
Elin Arfon
|
Myfyriwr Ymchwil – Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd
|
Jeremy Jones |
Aelod sylfaenol o Rwydwaith Athrawon Almaeneg Cymru
|
Dr Ian Collen |
Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon – Prifysgol Queen's Belfast |
Brooke Webb |
Heledd Fychan AS, Senedd Cymru
|
Salked Niahm |
Staff Senedd Plaid Cymru
|
Gareth Llewellyn |
Staff Senedd, Peredur Owen Griffiths
|
Alex Sims |
Staff Senedd Jenny Rathbone
|
Gerard Pitt |
Llywodraeth Cymru
|
Anna Miller |
Llywodraeth Cymru
|
Kerry Bevan |
Arweinydd Rhaglen Ieithoedd Tramor Modern TAR Uwchradd – Prifysgol Metropolitan Caerdydd
|
Susana Galvan Hernandez |
Cyfarwyddwr Gweithredol – Taith
|
Nasaret Perez-Nieto |
Uwch Ddarlithydd Sbaeneg – Prifysgol Caerdydd
|
Liz Wren-Owens |
Deon Addysg Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Darllenydd mewn Eidaleg, ac Astudiaethau Cyfieithu – Prifysgol Caerdydd
|
Bethan Mumford |
Swyddog Prosiect Addysg a Mentora - Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern – Prifysgol Caerdydd
|
Bethan Spencer |
Rheolwr Cymwysterau – Cymwysterau Cymru |
Claire O’Shea |
Pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Affrica |
Elen Davies |
Uwch Ohebydd a Newyddiadurwr – BBC Cymru
|
Elham Gharib |
Ymgynghorydd Rhaglen Ysgolion Byd-eang– British Council |
Glynn Downs |
Cadeirydd - Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang
|
Vicky Gough |
Uwch Ymgynghorydd Rhaglen Ysgolion Byd-eang – British Council
|
Rosalind Gould |
Rheolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, DU – British Council
|
Dr Jayne Duff |
Cynorthwy-ydd Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Gwaith Cymdeithasol – Prifysgol Queen’s Belfast
|
Marina Saez Lecue |
Swyddog Cymorth Prosiect - CSC |
Aobh Mcanulty |
Ymgynghorydd Cynorthwyol – British Council
|
Jenni Tabea Rall |
Cydlynydd Prosiect ar gyfer Gwasanaethau Addysgol – Goethe Institute |
Heledd Fychan |
Aelod o'r Senedd |
Peredur Owen Griffiths |
Aelod o'r Senedd |
Rebecca Beckley |
Cydlynydd Rhanbarth Prosiect Mentora Myfyrwyr Gorwelion Iaith – Prifysgol Caerdydd
|
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Croeso gan y Cadeirydd: Rhoddodd y Cadeirydd gyflwyniad byr i'r panel ac aeth drwy’r agenda. Nid oedd cyfieithiad Cymraeg ar gael ar gyfer y cyfarfod gan nad oedd ystafell addas at y diben hwnnw ar gael.
Cyflwyniad ar Adroddiad ar Dueddiadau Ieithyddol Cymru gan Dr Ian Collen: Ian yw’r ymchwilydd arweiniol ar yr Adroddiad ar Deddiadau Ieithyddol Cymru, a ddechreuodd yn 2015. Mae hefyd yn gweithio ar brosiectau Tueddiadau Ieithyddol Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban gyda'i gydweithwyr ym Mhrifysgol Queen's Belfast. Diben yr Adroddiad yw monitro tueddiadau ym maes Ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion (cynradd ac uwchradd) a cholegau ôl-16 yng Nghymru er mwyn cael syniad o sefyllfa dysgu ac addysgu Ieithoedd Rhyngwladol yn y wlad. Er mwyn casglu data ar gyfer yr ymchwil, anfonir tri arolwg i ysgolion a cholegau Cymru bob blwyddyn y mae’r prosiect ar waith. Roedd yr adroddiad diweddaraf yn ymdrin â’r canlynol: · Yr ieithoedd sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd. · Parodrwydd ysgolion i allu addysgu Ieithoedd Rhyngwladol. · Sut beth yw Ymgysylltu Rhyngwladol mewn ysgolion cynradd. · Pa Ieithoedd Rhyngwladol sy'n cael eu haddysgu yn CA3 a CA4, yn ogystal â'r amser a neilltuir ar gyfer y gwersi hyn. · Sut beth yw Dimensiwn Rhyngwladol dysgu ieithoedd mewn ysgolion. · Sut mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi effeithio ar ddysgu ieithoedd rhyngwladol. · Beth yw’r ystadegau ar gyfer ymgysylltu ag ieithoedd yn y sector ôl-16.
Cyflwyniad Llais y Disgybl gan Dr Claire Gorarra a Lucy Jenkins: Dr Claire Gorarra yw arweinydd academaidd Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern a Lucy yw Cyfarwyddwr y Prosiect. Diben y Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern yw ymgysylltu â disgyblion mewn ysgolion drwy ddysgu iaith a’u hannog i ddatblygu meddylfryd amlieithog wrth i fyfyrwyr prifysgol eu menotra. Mae 125 o ysgolion uwchradd a 10 prifysgol ledled Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect hwn ac mae 6000 o fyfyrwyr wedi ateb arolygon ynghylch pa bynciau y maent yn eu mwynhau fwyaf yn yr ysgol. O’r 13 o bynciau, gwelwyd fod Saesneg yn y drydedd safle, roedd Ieithoedd Rhyngwladol yn safle 11 a’r Gymraeg yn safle 13. Mae llawer o waith y prosiect yn ymwneud â deall pam nad yw disgyblion yn ymddiddori mewn ieithoedd. Gwelwyd bod myfyrwyr yn chwilfrydig yngylch yr amrywiaeth o ieithoedd sydd i’w cael ond mae rhwystrau i'w llwybrau dysgu (ee toriadau adrannol, mwy o bynciau i ddewis ohonynt, etc).
Cyflwyniad gan Jeremy Jones: Jeremy yw Sylfaenydd Rhwydwaith Athrawon Almaeneg Cymru ac mae’n cynnal ymchwil i ddysgu ieithoedd gydag athrawon. Dyma’r prif bwyntiau a gododd Jeremy: · Mae athrawon uwchradd yn teimlo nad yw'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn annog ysgolion i addysgu Ieithoedd Rhyngwladol. · Mae ysgolion cynradd yn teimlo nad ydynt yn barod i addysgu Ieithoedd Rhyngwladol, gan eu bod yn teimlo nad oes ganddynt yr amser na’r cymwysterau i wneud hynny. · Mae addysg Ieithoedd Rhyngwladol yn dirywio mewn ysgolion uwchradd, yn enwedig Almaeneg. Mae hyn wedi arwain at doriadau adrannol, sy'n golygu nad yw disgyblion yn ymwneud rhyw lawer, os o gwbl, ag ieithoedd. · Mae athrawon iaith cymwysediig mewn ysgolion uwchradd yn gadael eu swyddi, gan eu bod yn credu nad yw'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn ymdrin â’r gostyngiad yn y niferoedd sy'n dewis ieithoedd rhyngwladol. · Tynnodd Jeremy sylw at y ffaith bod angen ymgyrchu i hyrwyddo addysgu ieithoedd a gofynnodd i Lywodraeth Cymru ymgysylltu mwy ag ysgolion a gwrando ar yr hyn sydd gan arweinwyr ysgolion i’w ddweud am y mater.
Agorwyd y llawr i drafod pwyntiau Jeremy. Dyma’r materion a godwyd: · Yn gyffredinol, mae pynciau iaith yn crebachu ac maent yn fwy tebygol o ddiflannu na phynciau eraill SHAPE (Gwyddorau Cymdeithasol, Dyniaethau a’r Celfyddydau i Bobl a’r Economi yw’r enw torfol ar y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau, a’r celfyddydau). · A yw sefydliadau a chyrff addysgol yn egluro gwerth dysgu iaith i ddisgyblion? A yw sefydliadau addysgol yn deall yr hyn y mae disgyblion yn ei ystyried yn 'werthfawr' am ddysgu iaith a sut y gall dysgu iaith fod yn berthnasol iddynt? Pwysleisiwyd bod dysgu iaith nid yn unig yn ymwneud â theithio, ond ei fod yn cadarnhau cysylltiadau diwylliannol a chysylltiadau rhwng gwledydd a/neu bobl. · Mae Brexit wedi cael effaith negyddol ar yr awydd i ddysgu ac addysgu iaith. Mae wedi golygu bod gwerth dysgu iaith yn cael ei golli gan nad oes digon o gysylltiad â diwylliannau eraill. · Defnyddio dwyieithrwydd (ee Cymraeg a Saesneg) a'r ymdrechion y mae Cymru wedi'u gwneud yn y maes hwn i sicrhau amlieithrwydd yng Nghymru. Gallwn ddysgu o’r ymdrechion i hybu dysgu Cymraeg i hybu dysgu ieithoedd rhyngwladol hefyd.
Y camau nesaf: Yn ystod y cyfarfod, nid oedd yr aelodau o’r Senedd a oedd yn bresennol yn gallu ateb cwestiynau’n uniongyrchol. Fodd bynnag, cytunwyd y byddent yn codi'r pwyntiau a drafodwyd yn y Grŵp Trawsbleidiol yn eu cyfarfodydd. Mae Heledd Fychan wedi cytuno i ysgrifennu llythyr at Jeremy Miles yn amlinellu'r materion a drafodwyd yn y Grŵp Trawsbleidiol. Diolchodd y Cadeirydd i bawb a ddaeth i’r cyfarfod gan eu hannog i anfon lincs yn ymwneud â'u harbenigedd at yr Ysgrifenyddiaeth.
Daeth y cyfarfod i ben am 13:00. |